Croeso...
​
Welcome...
Teithiau tywys arbennig drwy dirwedd ac i mewn i geudyllau tanddaearol hen ddiwydiant mwyn gorllewin canolbarth Cymru.
​
Anturwch i mewn i'r twnneli llaith a'r tirwedd hynod, i lefydd nad sydd wedi cael eu cyffwrdd ers y gadawodd y mwynwyr dros ganrif yn ol. Darganfyddwch hen weithfeydd plwm, arian, copr a sinc sy'n dyddio yn ol dros 4,000 o flynyddoedd.
Rydym yn cynnig ystod eang o deithiau anturus ar yr wyneb ac o dan ddaear, sy'n edrych i mewn i amodau gweithio, bywydau a strwythur yr hen gymunedau mwyngloddio yng nghanolbarth Cymru. Sylwch ar faint y ceudyllau tanddaearol enfawr sy'n gorwedd yn gudd yng nghrombil Mynyddoedd y Cambria, a dysgwch am y cannoedd o bobl a arferai weithio yn y llefydd hollbwysig hyn.
​
Ymgollwch eich hun yn hanes unigryw diwydiant mwyngloddio canolbarth Cymru, wrth i'n teithiau gynnig cyfle bythgofiadwy i weld a phrofi awyrgylch y ceudyllau tanddaearol a'r tirwedd o'u cwmpas. Mi fydd eich taith hefyd yn cynnwys arteffactau ac hen offer mwyngloddio sydd wedi goroesi yng nghrombil y ddaear.
​
Mae pob taith ar gael yn Saeneg neu'r Gymraeg, ar yr wyneb neu o dan ddaear, ac mi ellir eu hanelu tuag at eich diddordebau chi. Gall hyn fod yn hanes cymdeithasol yr ardal, daeareg, archaeoleg, chwilota o dan ddaear neu bethau hwyl i wneud ar ddiwrnod allan yng nghanolbarth Cymru!